Sut gallwn ni eich helpu chi?

Amdanom ni

Beth yw’r Gwasanaeth Ombwdsmon Cartrefi Newydd?

Mae’r Gwasanaeth Ombwdsmon Cartrefi Newydd yn bodoli i helpu cwsmeriaid ddatrys problemau gyda'u cartrefi newydd nad yw'r Datblygwr Cofrestredig wedi gallu eu datrys neu y mae’n amharod i'w datrys.

Mae cylch gwaith Gwasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd yn cwmpasu'r holl gyfnod o neilltuo eiddo a’r cwblhad cyfreithiol hyd at faterion ar ôl y gwerthu a rheoli cwynion am broblemau yn ystod dwy flynedd gyntaf prynu cartref newydd.

Prif ddiben Gwasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd yw darparu gwasanaeth annibynnol am ddim i gwsmeriaid, a all asesu a dyfarnu'n ddiduedd ar faterion sydd wedi codi sy'n dod o fewn cwmpas yr Ombwdsmon. Mae hyn yn cynnwys cwynion am y prosesau neilltuo, y Cwblhau Cyfreithiol a rheoli cwynion, neu faterion neu ddiffygion sydd wedi codi wrth neu ar ôl dechrau preswylio ac nad ydynt yn ddiffygion mawr.

Ein Tîm

Yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd sy'n arwain y gwasanaeth ac fe'i cyflwynir drwy ddau dîm, gyda chymorth swyddogaeth gwasanaeth cwsmeriaid. Mae'r tîm gwaith achos yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch cymhwysedd cwynion ac am hwyluso datrys achosion yn gynnar drwy drafod â'r partïon. Arweinir y tîm gan reolwr gwaith achos.

Rheolir tîm yr Ombwdsmon gan Ombwdsmon Arweiniol sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau am achosion lle nad yw'r broses o ddatrys yn gynnar yn addas, neu lle bu'n aflwyddiannus.

Mae pob aelod o'r timau gwaith achos a'r Ombwdsmon yn weithwyr parhaol ac yn cael eu recriwtio drwy broses agored a thryloyw.

Yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd yw Alison MacDougall

Mae Alison yn Ombwdsmon profiadol iawn sydd wedi dal swyddi uwch gyda Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol sy'n ymdrin â chwynion myfyrwyr, gydag Awdurdod Cwynion yr Heddlu lle bu'n ymdrin â chwynion difrifol yn ymwneud â marwolaethau yn y ddalfa, a gyda’r Gwasanaeth Anghydfod lle bu'n gyfrifol yn gyffredinol am y gwasanaeth datrys anghydfodau mewn perthynas â blaendaliadau tenantiaeth.

Mae ganddi radd yn y gyfraith ac yn Aelod Cyswllt o Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr [CIARB].

01 2
Sara Hesp

Mae Sara Hesp yn Ombwdsmon Arweiniol gyda Gwasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd. Mae wedi gweithio yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio, mae'n aelod o Dribiwnlys Yr Haen Gyntaf [Eiddo] yr Alban fel aelod Lleyg ac mae wedi gweithio fel Dyfarnwr Arweiniol yn y Gwasanaeth Anghydfodau.

02 2
Paula Guthrie

Mae Paula yn brofiadol iawn ym maes datrys anghydfodau a rheoli cwynion. Mae hi wedi gweithio yn y sector rhentu preifat a chydag adeiladwyr tai preifat a datblygwyr siopau manwerthu am y pymtheng mlynedd diwethaf. Aelod Cyswllt o Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr (CIARB) ac Aelod EMP o Propertymark (MARLA).

Paula
Llywodraethu

Mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd yn is-gwmni i'r Dispute Service Ltd, sy'n gwmni nid-er-elw sy'n arbenigo mewn gwaith datrys anghydfodau mewn perthynas â blaendaliadau tenantiaeth yn y sector rhentu preifat a chyfryngu a chymodi rhwng landlordiaid a thenantiaid ar gyfer materion sy'n codi yn ystod tenantiaethau.

Mae Bwrdd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd yn goruchwylio gwaith yr Ombwdsmon ac yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.  Mae gan y Bwrdd fwyafrif o gyfarwyddwyr sy'n annibynnol ar y diwydiant adeiladu tai.  Nid yw'n ymwneud â phenderfyniadau a wneir gan yr Ombwdsmon, ond mae'n adolygu gweithrediad a rheolaeth y Gwasanaeth.

Mae gan y Bwrdd fwyafrif o gyfarwyddwyr annibynnol sy'n cynnwys:

Mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd (NHOS Ltd) yn is-gwmni sy'n eiddo'n llwyr i The Dispute Service Ltd.

Adolygydd Cwynion Annibynnol

Margaret Doyle

Margaret Doyle yw Adolygydd Cwynion Annibynnol yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd sy'n gyfrifol am adolygu cwynion am y ffordd y mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd yn ymdrin ag achosion.  Ei rôl yw nid adolygu penderfyniadau'r Ombwdsmon ond yn hytrach sicrhau y cydymffurfiwyd â pholisïau a gweithdrefnau'r gwasanaeth pan fo cwyn sydd wedi dihysbyddu'r weithdrefn gwyno fewnol.

Mae'n gwbl annibynnol ar yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd ac yn adrodd yn uniongyrchol i’r Bwrdd.

Ar hyn o bryd, hi yw'r Cymrawd Ymchwil Gwadd yn Sefydliad Cyfiawnder Gweinyddol y DU, Prifysgol Essex ac mae'n ymgynghorydd mewn datrys anghydfodau trwy ddulliau amgen ac yn gyfryngwr annibynnol.

Janey Milligan - Independent Complaints Reviewer
Cyllid

Mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid ei ddefnyddio.

Ariennir ei gostau gan y Bwrdd Ansawdd Cartrefi Newydd drwy ardoll a godir ar y Datblygwyr Cofrestredig hynny sydd wedi cofrestru gyda'r Bwrdd Ansawdd Cartrefi Newydd ac sydd wedi mabwysiadu'r Cod Ansawdd Cartrefi Newydd.

Bwrdd Ansawdd Cartrefi Newydd

Mae'r Bwrdd Ansawdd Cartrefi Newydd (NHQB) yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am oruchwylio ansawdd a'r gwasanaeth cwsmeriaid a ddarperir gan ddatblygwyr i brynwyr drwy’r broses o neilltuo a gwerthu cartrefi newydd tan ddiwedd y ddwy flynedd gyntaf o berchnogaeth.

Yn seiliedig ar egwyddorion annibyniaeth, tryloywder ac uniondeb, ei amcanion yw sicrhau safon gyson uchel o ansawdd a gwasanaeth cartref newydd, a chryfhau'r ffordd yr eir i’r afael â chwynion a darparu iawn i brynwyr cartrefi newydd lle na chyflawnir y safonau uchel hyn.

Mae'r Bwrdd Ansawdd wedi comisiynu Gwasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd i ddarparu gwasanaeth Ombwdsmon annibynnol ar gyfer cwynion cwsmeriaid.