Sut gallwn ni eich helpu chi?

Defnyddwyr

Canllaw cam wrth gam o ran gwneud cwyn

 

**Mae hwn yn wasanaeth newydd. Pan fydd datblygwyr wedi cwblhau eu cofrestriad, bydd eu manylion yn ymddangos ar y wefan hon a gall defnyddwyr ddechrau'r broses gwyno. Gwiriwch yn ôl yn rheolaidd nes bod manylion eich datblygwr yn ymddangos.**

 

Step 03

Gallwch gyflwyno cwyn i’r Ombwdsmon Cartrefi Newydd os yw eich cwyn yn bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Mae'r datblygwr yn Ddatblygwr Cofrestredig cyfredol gyda'r Bwrdd Ansawdd Cartrefi Newydd ac mae wedi ymrwymo i'r Cod Ansawdd Cartrefi Newydd. Cliciwch yma i weld rhestr o aelodau cymwys y Bwrdd Ansawdd a'r dyddiad y gwnaethant ymuno â'r cynllun.
  • Roedd dyddiad neilltuo’r eiddo ar neu ar ôl i'r Datblygwr Cofrestredig ddod o dan awdurdodaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd.
  • Mae'r gŵyn yn ymwneud â mater a ddigwyddodd o fewn 2 flynedd i'ch dyddiad neilltuo neu ddyddiad cwblhau cyfreithiol, pa un bynnag sydd fwyaf diweddar.
  • Y cyflwynir eich cwyn lai na 12 mis o'r Llythyr Cau Terfynol, os ydych wedi derbyn hyn. [Llythyr gan y datblygwr yw hwn yn dweud bod y gŵyn wedi'i datrys].
  • Rydych wedi derbyn eich Llythyr Cau Terfynol neu rydych wedi aros o leiaf 56 diwrnod o'r dyddiad y gwnaethoch gyflwyno'ch cwyn gychwynnol i'r Datblygwr Cofrestredig.
  • Mae'r gŵyn yn torri'r Cod Ansawdd Cartrefi Newydd ac rydych eisoes wedi codi hyn gyda'r Datblygwr Cofrestredig. [Os nad ydych yn siŵr a yw eich cwyn yn torri'r Cod Ansawdd Cartrefi Newydd, gallwch ymateb "Ddim yn Gwybod" ar y ffurflen gwyno gychwynnol a byddwn yn adolygu'r gŵyn a gyflwynwyd gennych a byddwn mewn cysylltiad].

 

Byddwn yn gofyn i chi:

  • Creu cyfrif cwynion gyda Gwasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd drwy roi eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, manylion y Datblygwr Cofrestredig yr ydych yn cwyno amdano, a'r eiddo y mae eich cwyn yn ymwneud ag ef.

Byddwn wedyn yn gofyn i chi uwchlwytho manylion llawn eich cwyn gydag unrhyw dystiolaeth ategol y byddwn wedyn yn ei rhannu gyda'r Datblygwr er mwyn iddynt ymateb. Byddwn yn rhannu eu hymateb gyda chi.