Sut gallwn ni eich helpu chi?

Defnyddwyr

Canllaw cam wrth gam o ran gwneud cwyn

 

**Mae hwn yn wasanaeth newydd. Pan fydd datblygwyr wedi cwblhau eu cofrestriad, bydd eu manylion yn ymddangos ar y wefan hon a gall defnyddwyr ddechrau'r broses gwyno. Gwiriwch yn ôl yn rheolaidd nes bod manylion eich datblygwr yn ymddangos.**

 

Person Using Laptop Computer Above 600W 1767122822
1Cwyno wrth y datblygwr

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwyno’n gyntaf wrth y datblygwr i roi cyfle iddynt gywiro pethau. Rhaid i'r datblygwr gael gweithdrefn gwyno y dylent ei dilyn ac yn y rhan fwyaf o achosion dylai codi'r gŵyn yn ffurfiol gyda hwy ddatrys y mater.

Raise Complaint
2Os nad ydych yn hapus â'u hymateb o hyd, gallwch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd
  • Os bydd y Datblygwr Cofrestredig yn methu ag ymateb yn llawn i chi o fewn 56 diwrnod i chi gyflwyno'ch cwyn gychwynnol gyda nhw yna gallwch gwyno wrthym ni.
  • Os yw'r Datblygwr Cofrestredig wedi rhoi llythyr Cau Cwyn Terfynol i chi a'ch bod yn dal yn anhapus gallwch hefyd gwyno wrthym ni.
Not Happy
3Gwnewch yn siŵr bod gennych yr wybodaeth wrth law i wneud cwyn

I gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd bydd angen i chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni a byddai'n ddefnyddiol cael hyn at ei gilydd cyn i chi ddechrau cyflwyno’r gŵyn.  Er enghraifft, bydd angen manylion arnom am:

  • yr eiddo rydych wedi'i neilltuo neu ei brynu.
  • manylion eich cwyn neu unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich cwyn [gan gynnwys yr hyn yr ydych chi eisoes wedi'i anfon at y datblygwr].
  • pa ran o God Ansawdd y Bwrdd Ansawdd y credwch y gallai'r datblygwr fod wedi'i dorri [er os nad ydych yn siŵr am hyn gallwch bob amser ddweud "Ddim yn Gwybod" wrth gyflwyno cwyn].
Information In Hand
I Godi eich cwyn, os gwelwch yn dda cliciwch yma